Sylwch: fel canlyniad i’r cyngor cyfredol ar Coronafeirws, ar hyn o bryd rydym ond yn darparu Gwasanaeth Cyfeillio Ffôn Covid-19 sy’n cynnig help a chefnogaeth yn yr adeg ansefydlog hon i aelodau mwyaf bregus yn y gymuned, trwy sgyrsiau.
A yw cloi i lawr wedi eich gadael yn ddiflas ac yn unig? Beth am godi eich ysbryd trwy wirfoddoli? Mae cyfeillio dros y ffôn yn eich helpu chi a’r person rydych chi’n ei ffonio, oherwydd gall sgwrs wythnosol helpu’r ddau ohonoch i ailgysylltu â’r byd!
Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr 18 oed a hŷn, i ymuno â’n Gwasanaeth Cyfeillio Ffôn Covid-19, sy’n cynnig help a chefnogaeth i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau ar yr adeg gythryblus hon, trwy sgyrsiau.
Trwy helpu i leihau ofnau i’r rhai sy’n profi pryder ac ansicrwydd, mae ein prosiect ffôn yn cynnig llais cyfeillgar ar foment o unigedd ac unigrwydd cynyddol.
Os hoffech chi bod yn cyfaill dros y ffôn byddem wrth ein bodd i glywed gennych!
Ymunwch â’n prosiect cyfeillio Cymdeithion Cymunedol i helpu pobl sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Helpwch nhw i gwrdd â phobl newydd, gwella mynediad i wasanaethau lleol a gwella eu hiechyd a’u lles yn gyffredinol.
Rydym yn recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr 16+ oed i gyfeillio pobl sy’n teimlo’n ynysig ac yn unig am amryw o resymau.
Dychmygwch fynd ddyddiau neu wythnosau heb weld rhywun neu fethu â mynd allan o’r tŷ? Gall awr o’ch amser chi yn ymweld â rhywun neu i’w helpu i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol wneud gwahaniaeth enfawr i’w diwrnod.
Efallai y bydd ein gwirfoddolwyr yn cyfeillio â pherson trwy ymweld â nhw yn eu cartref eu hunain am gwpl o oriau’r wythnos, mynd gyda nhw siopa, cefnogi i fynd i apwyntiadau meddygol, ymweld â chaffi cymunedol neu amryw o weithgareddau a chlybiau cymdeithasol eraill.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy lawrlwytho ein canllaw gwirfoddolwr i ddod yn gyfaill ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk