Mae ein Tîm Gwirfoddolwyr yn helpu sefydliadau lleol i fod y gorau y gallant fod trwy roi arweiniad arfer gorau ar recriwtio a rheoli goruchwylio, hyfforddi, ymgysylltu a chadw gwirfoddolwyr.
Gallwch gysylltu â’n Tîm Gwirfoddolwyr yn BAVO a all roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud dewisiadau gwybodus am wirfoddoli. Mae cofrestru ar gyfer sefydliadau yn rhad ac am ddim.
Mae platfform gwirfoddoli digidol ‘Third Sector Support Wales’ AM DDIM i wirfoddolwyr chwilio am gyfleoedd ac i sefydliadau sydd am recriwtio.
Ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr, bydd y system hon yn eich helpu i recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, logio oriau gwirfoddolwyr, cynllunio rotas a digwyddiadau, recordio hyfforddiant a phrofiad a chynhyrchu adroddiadau.
Cofrestrwch ar Bridgend.volunteering-wales.net
Bydd angen i chi glicio ar angen gwirfoddolwyr – ychwanegu eich cyfleoedd, cofrestru ac yna ychwanegu cyfleoedd gwirfoddoli.
Fel y gwyddom i gyd, mae gwirfoddolwyr ledled y wlad wedi helpu i wasanaethu eu cymunedau lleol drwy’r cyfnodau clo diweddar ac mae hyn wedi darparu rhan hanfodol o’r ymateb cenedlaethol i’r pandemig.
Ydych chi’n ymwybodol o’ch cyfrifoldeb fel aelod pwyllgor/ymddiriedolwr i amddiffyn eich gwirfoddolwyr, staff a buddiolwyr?
A ydych yn cydymffurfio â’r gyfraith o ran diogelu data a manylion cyswllt buddiolwyr (yn enwedig y rhai a allai fod yn agored i niwed) a gwirfoddolwyr?
Ydych chi’n amddiffyn eich gwirfoddolwyr, eich buddiolwyr a’ch staff, a oes gennych chi berson arweiniol diogelu, polisi a gweithdrefn?
A yw eich yswiriant presennol yn cynnwys eich gwaith presennol?
A ddylai eich gwirfoddolwyr gael gwiriadau DBS?
Wrth i ni i gyd barhau i weithio i ddiwallu anghenion y gymuned yn y cyfnod heriol hwn, mae’n hanfodol bwysig ein bod yn sicrhau ein bod i gyd yn gweithio o fewn y canllawiau a’r ddeddfwriaeth bresennol.
Os oes angen arweiniad pellach arnoch, cysylltwch â’n tîm Datblygu
Os oes angen unrhyw arweiniad pellach arnoch, cysylltwch â’n tîm Swyddogion Datblygu, neu cyfeiriwch at y dolenni canlynol:
Newidiadau i’r rheolau ar gyfer gwiriadau DBS
Proses ymgeisio datgelu ar gyfer gwirfoddolwyr
Diogelu Cyfryngau Cymdeithasol
Teclyn ar-lein am ddim yw IiV Essentials a ddyluniwyd yn arbennig ar gyfer grwpiau a sefydliadau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr. Fe’i datblygwyd yn genedlaethol ac fe’i cefnogir gan NCVO, Volunteer Now, Volunteer Scotland a WCVA.
Mae WCVA (ochr yn ochr â NCVO, Volunteer Scotland a Volunteer Now) yn lansio teclyn newydd am ddim i’ch helpu chi i wella profiad gwirfoddolwyr yn eich sefydliad, gan sicrhau bod gwirfoddolwyr yn ymwneud â chyflawni’ch cenhadaeth yn y ffordd orau bosibl.
Gan ganolbwyntio ar chwe maes craidd, cewch eich arwain trwy gyfres o gwestiynau a fydd yn eich helpu i ddiffinio sut rydych chi’n cefnogi ac yn ymgysylltu â’ch gwirfoddolwyr, sut maen nhw’n cyfrannu at eich cenhadaeth a sut maen nhw’n gwella’ch gwasanaethau i’r bobl sy’n eu defnyddio.
Os hoffai’ch sefydliad ddefnyddio’r teclyn, gallwch ddarganfod mwy am IiV Essentials yma
Yma gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddechrau gwirfoddoli. Mae yna amryw eang o bynciau sy’n berthnasol i weithio gyda gwirfoddolwyr ar gael, o ddatblygu eich strategaeth gwirfoddolwyr, ysgrifennu polisi gwirfoddolwyr, i wybodaeth am recriwtio, treuliau, diogelwch, materion cyfreithiol a sut i ddenu a chynnwys gwahanol grwpiau targed yn effeithiol.
Mae ein taflenni gwybodaeth gwirfoddoli ar gael yma
Mae ein Tîm Gwirfoddolwyr yn helpu sefydliadau lleol i fod y gorau y gallant fod trwy roi arweiniad arfer gorau ar recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr, goruchwylio, hyfforddi, ymgysylltu a chadw. Mae ein e-fwletinau gwirfoddoli rheolaidd yn llawn o’r cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf ac maent hefyd yn rhoi cipolwg ar gyfleoedd i unigolion.
Darllenwch ein e-fwletin gwirfoddoli diweddaraf yma …
Dyddiad cau: 21 Gorffennaf 2021.
Nod yr arian yw helpu pobl ifanc i wirfoddoli rhwng 14 a 25 oed i chwarae mwy o ran mewn sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn eu cymuned leol. Darllen mwy …
Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: volunteering@bavo.org.uk