Hafan » Cael help » Help i unigolion » Cymdeithion Cymunedol » Cydweithio i gefnogi pobl
Cydweithio i gefnogi pobl

Sylwch: fel canlyniad i’r cyngor cyfredol ar Coronafeirws, ar hyn o bryd rydym ond yn darparu Gwasanaeth Cyfeillio Ffôn Covid-19 sy’n cynnig help a chefnogaeth yn yr adeg ansefydlog hon i aelodau mwyaf bregus yn y gymuned, trwy sgyrsiau.
Trwy helpu i leihau eich ofnau os ydych chi’n profi pryder ac ansicrwydd; mae ein prosiect cyfeillio dros y ffôn yn cynnig llais cyfeillgar ar eiliad mae’r teimladau o unigedd ac unigrwydd yn cynyddu.
Pwy all gyfeirio pobl?
Unrhyw un sy’n cefnogi person ac yn teimlo bod angen ychydig mwy cefnogaeth neu gwmnïaeth. Gall cyfeireb dod o weithwyr iechyd proffesiynol fel therapyddion galwedigaethol, meddygon teulu, gweithwyr cymdeithasol a nyrsys ardal. Gall cymdeithasau tai hefyd gwneud cyfeireb, yn ogystal â sefydliadau gwirfoddol, aelodau o’r teulu neu ffrindiau. Hefyd, mae gennym bobl sy’n hunangyfeirio..
Pwy ellir cyfeirio?
I fod yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth cyfeillio mae angen iddynt fod yn:
- teimlo’n unig neu’n ynysig heb unrhyw neu dim llawer o gefnogaeth deuluol;
- byw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;
- byw mewn llety cysgodol neu’n rhentu, eiddo cymdeithas dai neu’ch cartref eich hun;
- wedi dioddef profedigaeth ac angen cefnogaeth i fynd yn ôl i fywyd cymunedol;
- eisiau gwneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau neu glybiau cymunedol, ond nid oes gennych yr hyder i fynd yno ar eich pen eich hun.
Sut i gyfeirio rhywun?
- Trafodwch ein gwasanaeth gyda’r unigolyn dan sylw, rhaid iddynt fod yn hapus a chytuno i dderbyn cefnogaeth wrthym ni.
- Cysylltwch â’n swyddfa BAVO a siaradwch â’n Swyddog Prosiect trwy ffonio 01656 810400 neu: bavo@bavo.org.uk
Byddwn ni’n:
- sefydlu ymweliad cychwynnol gyda’r unigolyn sy’n gofyn am gyfeillio i drafod ei anghenion;
- paru gwirfoddolwr hyfforddedig wedi’i wirio â DBS ag anghenion yr unigolyn yn ofalus;
- mynd gyda’r gwirfoddolwr ar ei ymweliad cychwynnol;
- cysylltu â chi i’ch hysbysu bod y gwasanaeth cyfeillio wedi cychwyn.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy lawrlwytho ein canllaw atgyfeirio ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cysylltwch â ni:
Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk
