Mae’n Wythnos Gwirfoddolwyr ac mae’n bryd dweud diolch! yn wythnos arbennig a glustnodwyd i ddiolch i wirfoddolwyr am bopeth a ddônt i’w cymunedau lleol ac eleni mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed.
Yn cael ei dathlu bob blwyddyn rhwng 1 – 7 Mehefin, mae’n wythnos lle mae’r DU yn dathlu gwirfoddolwyr ac yn dweud diolch am y cyfraniad maen nhw’n ei wneud. Mae hefyd yn codi ymwybyddiaeth am fanteision dod yn wirfoddolwr a’r rolau gwirfoddoli amrywiol sydd ar gael.
Mae dweud diolch yn teimlo’n bwysicach nag erioed gan fod yr ymateb gwirfoddol i coronafirws wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau fel siopa, casglu presgripsiynau neu alwadau lles i bobl sy’n teimlo’n ynysig ac yn bryderus.
Yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, roedd gennym dros 1,500 o bobl yn cofrestru fel gwirfoddolwyr! Rydyn ni wir wedi cael ein llethu a’n darostwng gan haelioni a charedigrwydd ein trigolion lleol.
Mae eleni yn nodi’r 37ain flwyddyn o gydnabod gwirfoddolwyr gyda’r thema gyffredinol ar gyfer yr wythnos yw AMSER I DDWEUD DIOLCH!