Ydych chi wedi clywed y newyddion? gofod3 – y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o’i fath yng Nghymru – yn ôl. Yn digwydd ar-lein rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf, mae’r gofod3 hwn yn paratoi i fod y gorau eto.
Gyda dros 60 o ddigwyddiadau am ddim i ddewis ohonynt, gan gynnwys dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, mae rhywbeth at ddant pawb – o ymddiriedolwyr a staff i wirfoddolwyr.
Rydyn ni i gyd wedi cael trafferth eleni – rhai yn fwy nag eraill – ac mae WCVA eisiau cynnig lle i chi bwyso a mesur, dysgu am y pethau sy’n bwysig i chi, a chynnig cyfle i chi ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd i helpu i lywio ein tirwedd weithredol newydd.
Marciwch eich dyddiaduron nawr! Bydd cofrestriadau yn agor ddechrau’r mis nesaf.
Wrth i ni ddathlu Wythnos Genedlaethol Dysgu yn y Gwaith, dyma gipolwg ar rai o’r sesiynau a all helpu i’ch cefnogi chi a’ch datblygiad tîm:
Mae gofod3 yn unigryw i Gymru, ac yn taflu sylw at y gwaith gwerthfawr a wnawn yn y sector gwirfoddol ledled Cymru. Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi dangos pwysigrwydd y sector gwirfoddol – ni fu erioed angen mwy nag yn awr, a gofod3 yw ein lle i adlewyrchu a rhoi hwb i’n cynlluniau tuag at adeiladu’n ôl yn well yng Nghymru.
Darganfyddwch fanylion pellach trwy ymweld â www.gofod3.cymru/home/
Os hoffech chi gynnal digwyddiad eleni, e-bostiwch: helo@gofod3.cymru