Gall Kooth.com ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc i’w helpu i reoli eu hemosiynau ar yr angen, gan atal materion rhag gwaethygu. Mae’r tîm ar-lein 365 diwrnod y flwyddyn tan 10pm.
Mae’r platfform yn darparu cymorth cwnsela, cefnogaeth cymheiriaid ac offer hunangymorth.
Bydd y sesiwn ragarweiniol yn rhoi trosolwg byr i chi o Kooth, gan egluro’r gweithgareddau newydd yn eu hadnoddau hunangymorth, yn ogystal ag arddangosiad byw o’r gwasanaeth, i weld beth mae person ifanc yn ei brofi pan fyddant yn cyrchu Kooth. Cliciwch ar y dolenni isod i gofrestru.
Dydd Mercher 30 Mehefin 2021 rhwng 3.30 – 4.30pm
Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2021 rhwng 2 – 3pm