Ydych chi’n ganolfan gymunedol neu grŵp sy’n agor gofod cynnes i bobl ddod at ei gilydd, cael paned cynnes a/neu wneud rhai gweithgareddau rhwng nawr a Mawrth 31ain 2023?
Os felly, gwnewch gais am grant hyb cynnes nawr! Gallwch wneud cais am hyd at £2000.
Diolch i Lywodraeth Cymru a BCBC, mae £40,000 i’w ddosbarthu i helpu grwpiau cymunedol, cyfleusterau a mentrau dielw ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Does dim dyddiad cau, ry’n ni’n derbyn ceisiadau nes bydd yr arian yn rhedeg allan – bydd panel yn edrych ar grantiau ddwywaith yr wythnos, felly mae ymateb sydyn !
Cliciwch y ddolen yma a chael eich ffurflen wedi ei hanfon i mewn heddiw!
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael gwybod ac mae’n ofynnol i chi dderbyn telerau’r grant, ac anfon adroddiad monitro byr i mewn ar ddiwedd eich prosiect. Byddai unrhyw luniau hefyd yn cael eu gwerthfawrogi.
Sylwer, i fod yn gymwys ni ddylech gael unrhyw fonitro grant rhagorol gyda BAVO.
Os ydych angen help, neu ddim yn siŵr beth i’w wneud, ffoniwch Mark, Claire neu Alison ar 01656 810400