Mae rhwydweithiau a fforymau iechyd meddwl a lles yn cynnig cyfle i grwpiau lleol gwrdd â sefydliadau eraill, rhannu syniadau a phryderon, datblygu partneriaethau rhyngasiantaethol a chytuno ar safbwyntiau’r sector gwirfoddol i fynd ymlaen i ymgynghori â chyrff statudol.
Os ydych chi’n unigolyn neu’n grŵp o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n hybu iechyd meddwl a lles positif, neu’n darparu gwasanaeth i bobl â phroblem iechyd meddwl, cysylltwch â BAVO.
Gallwn roi gwybodaeth, hyfforddiant a chyngor i chi ar bolisi iechyd meddwl, cyllid ac ati. Os ydych chi’n ddefnyddiwr gwasanaeth iechyd meddwl, neu’n ofalwr, rydym yn gweithio gydag asiantaethau eraill ym maes cynllunio gwasanaeth iechyd meddwl i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr orau.
Os ydych chi am sefydlu grŵp gallwn roi cyngor i chi ar ddechrau arni a darparu adnoddau a mynediad i chi i grwpiau arbenigol eraill a allai eich helpu ymhellach.
Cysylltwch â’r rhwydweithiau iechyd meddwl a restrir isod os ydych chi’n unigolyn neu’n grŵp sydd â’r nod o hybu iechyd meddwl neu ddarparu gwasanaeth i bobl â phroblem iechyd meddwl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
Mae’r rhwydwaith hwn yn dwyn ynghyd:
Mae’r rhwydwaith yn creu cyfleoedd i drafod materion cyfredol, prosiectau ar y cyd posibl, gwneud y mwyaf o gyfleoedd gwasanaeth ac osgoi dyblygu gwaith. Mae hefyd yn gyfle i’r sector gwirfoddol ehangach, sy’n darparu gwasanaethau i bobl a allai fod â materion iechyd meddwl hefyd, gysylltu, rhannu gwybodaeth a gweithio mewn partneriaeth.
Os ydych chi’n gweithio gyda neu’n cefnogi pobl sydd â mater iechyd meddwl ac yr hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan a chael y wybodaeth ddiweddaraf, cysylltwch â BAVO, T: 01656 810 400 neu E: lauradadic@bavo.org.uk
Mae’r Rhwydwaith Iechyd Meddwl Rhanbarthol ‘Gyda’n Gilydd dros Iechyd Meddwl’ yn dwyn ynghyd y sector gwirfoddol a chymunedol o bob rhan o fwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthy Tudful a Rhondda Cynon Taf a bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg.
Y nod yw:
Cyfarfod nesaf: 21 Chwefror 2024
Am fanylion pellach, cysylltwch â BAVO, T: 01656 810400, E: lauradadic@bavo.org.uk neu ffoniwch T: 0165 681 0400.
Mae BAVO yn cefnogi Fforwm Iechyd Meddwl Trydydd Sector CTM (Cwm Taf Morgannwg) gyda Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT) ac Interlink RhCT (Rhondda Cynon Taf). Janet Whiteman, Prif Swyddog Gweithredol New Horizons.
Gyda’n gilydd rydym yn:
• Cysylltu pobl a darparu gwybodaeth
• Gwella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o faterion a gwasanaethau iechyd meddwl yn y rhanbarth
• Dylanwadu ar newid a hyrwyddo gwell gwasanaethau i bawb
Mae’r Fforwm yn dod â’r sector gwirfoddol at ei gilydd. Mae’n defnyddio sgiliau, adnoddau, gallu a chryfderau ei aelodau i ddatblygu a chefnogi gweithio mewn partneriaeth, gwella darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl a rhannu arfer da. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod gwasanaethau’n diwallu anghenion y bobl sydd angen cymorth ac yn helpu pobl i gael mynediad at y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir. Mae hyn yn cynnwys pobl y mae stigma neu amgylchiadau yn eu cuddio rhag golwg plaen.
Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Laura Dadic yn BAVO ar lauradadic@bavo.org.uk neu 01656 810 400
Mae’r rhwydwaith hwn yn cefnogi cyfranogiad llawn ac effeithiol unigolion yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth o amrywiol wasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r rhwydwaith yn darparu cefnogaeth a hyfforddiant cymheiriaid i’w aelodau.
Nodau’r grŵp:
Gweithir ar y nodau hyn trwy:
Cyfranogiad:
Gwybodaeth:
Cynhelir cyfarfodydd yn fisol ac maent yn agored i bawb sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Am fanylion pellach, ffoniwch, T: 01656 810 400
For further details contact BAVO, T: 01656 810 400 or E: bavo@bavo.org.uk