Ydych chi’n grŵp cymunedol neu’n elusen, neu a ydych chi am ddechrau un?
Ydych chi’n chwilio am gyllid?
Oes angen mwy o wirfoddolwyr arnoch chi?
Ydych chi am gwrdd â grwpiau o’r un anian?
Oes angen help arnoch i ddatrys problem?
Mae BAVO yn darparu aelodaeth AM DDIM ar gyfer grwpiau cymunedol lleol, gwirfoddol a dielw!
Rydym yn darparu cefnogaeth a chymorth AM DDIM i’r holl grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n aelodau, nid-er-elw a mentrau cymdeithasol yn ein hardal. Rydym hefyd yn darparu rhai gwasanaethau ymgynghori.
Mae ceisiadau aelodaeth yn cael eu hystyried ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol ac maent yn hollol rhad ac am ddim.
Dadlwythwch ffurflen aelodaeth BAVO yma
Gweler ein Hydbysiad Preifatrwydd yma
Dychwelwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau ynghyd â chopi o’ch cyfansoddiad wedi’i lofnodi i: BAVO – 112/113, Commercial Street, Maesteg, CF34 9DL.
Mae aelodau BAVO hefyd yn cael prisiau rhatach ar gyfer ein rhaglenni hyfforddi a chyhoeddusrwydd AM DDIM ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a chylchlythyrau.
Mae aelodaeth lawn yn agored i bob grŵp cymunedol a gwirfoddol lleol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae aelodaeth gyswllt yn agored i grwpiau cymunedol a gwirfoddol nad ydynt wedi’u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ond y cynigir eu gwasanaethau ym mwrdeistref y sir.
Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk