Cofrestrwch gyda infoengine

Cofrestrwch gyda infoengine i hyrwyddo’ch gwasanaethau

Ydych chi wedi cofrestru ar gyfeiriadur ar-lein infoengine, Cyfeiriadur gwasanaethau Trydydd Sector Cymru?

Cyfeiriadur ar-lein o wasanaethau trydydd sector yng Nghymru yw infoengine. Os ydych chi’n sefydliad neu’n grŵp gwirfoddol, trwy gofrestru’ch sefydliad bydd gennych restr am ddim yn eu cyfeirlyfr cynhwysfawr; gallu hyrwyddo’ch gwasanaethau i gynulleidfa eang a denu pobl yn eich cymuned a thu hwnt!

Cofrestrwch eich sefydliad gyda infoengine.wales

Mae’n cael ei ddarparu a’i gefnogi gan Gymorth Trydydd Sector Cymru, partneriaeth o Gynghorau Gwirfoddol Sirol gan gynnwys BAVO a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC).

Mae ganddo dros 4,000 o wasanaethau a gynigir gan sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol. Mae’r nifer hwn yn cynyddu bob dydd. Mae infoengine yn tynnu sylw at amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol rhagorol sy’n gallu darparu gwybodaeth a chefnogaeth fel y gall pobl wneud dewis gwybodus. Gallwch gofrestru’ch sefydliad yn rhad ac am ddim ac yna ychwanegu’r gwasanaethau unigol rydych chi’n eu cynnig. Gallwch hefyd uwchlwytho lluniau, logo a thaflenni, yn ogystal â chysylltu â’ch gwefan a’ch cyfryngau cymdeithasol.

Mae cofrestru’n cymryd dim mwy mwy na 10 munud a gall wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd rhywun.

Ymunwch â miloedd o bobl eraill a chofrestrwch heddiw mewn tri cham syml… 

Cymerwch gip ar ganllaw infoengine ‘Sut i’ yma

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch olygu eich cofnodion yn ôl yr angen i gadw’ch gwybodaeth yn gyfredol.

 
  • Third Sector Support Wales
  • Welsh Government
  • Investing in Volunteers
  • Quality in Befriending
  • Cyber essentials
  • Cynnig Cymraeg
  • Cultural Competence Silver Award