Nid yw rheoli grwpiau cymunedol a gwirfoddol bob amser yn hawdd. Rydym yn darparu cyngor arbenigol i grwpiau a phrosiectau cymunedol a gwirfoddol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor parhaus gan gynnwys drafftio a diwygio dogfennau llywodraethu, cofrestru elusennau a chwmnïau, datblygu polisïau a gweithdrefnau (e.e. diogelu plant ac oedolion agored i niwed, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch). Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth wedi’i theilwra i grwpiau wrth iddynt ddatblygu bidiau cyllid cyfalaf a refeniw.
Mae BAVO yn darparu cefnogaeth ymarferol i sefydliadau trydydd sector i’w helpu i ddod yn fwy cynaliadwy, cynhyrchu incwm newydd a gwneud cais llwyddiannus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae ystod eang o sefydliadau wedi cael arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth cyfeirio ym meysydd llywodraethu, strwythurau cyfreithiol, datblygu polisi, cyllid, gweithio mewn partneriaeth a thendro.
Mae sefydliadau hefyd wedi elwa o sesiynau ymwybyddiaeth a chyngor ar sefydlu mentrau cymdeithasol, gan gynnwys y math o strwythurau cyfreithiol sydd ar gael. Cyflwynwyd gweithdai yn ymdrin â phynciau fel rolau a chyfrifoldebau ymddiriedolwyr a datblygu strategaeth ariannu.
Mae partneriaid Cymorth Trydydd Sector Cymru wedi lansio banc newydd o wybodaeth ar-lein ac adnoddau addysg ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae Hwb Gwybodaeth yn offeryn hawdd ei ddefnyddio i helpu sefydliadau gwirfoddol i uwchsgilio, dysgu a chael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel ar feysydd allweddol fel rhedeg eich sefydliad, gwirfoddoli, cyllido a dylanwadu.
Yn ogystal â detholiad o daflenni gwybodaeth a chyrsiau ar-lein, mae Hwb Gwybodaeth hefyd yn rhoi cyfle i chi rwydweithio â chyfoedion a trafod pynciau sy’n bwysig i chi. Mae’n hollol rad ac am ddim i’w ddefnyddio i unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, neu i’r rheini sydd am gymryd rhan yn y trydydd sector am y tro cyntaf.
Er mwyn manteisio ar yr Hwb Gwybodaeth newydd, cofrestrwch yn thirdsectorsupport.wales/cy/
…os yw’ch grŵp er budd y cyhoedd yn unig gydag incwm blynyddol o dros £ 5,000 y flwyddyn, o ba bynnag fath, a waeth sut y caiff ei wario, RHAID iddo gofrestru fel elusen?
Gall staff BAVO helpu eich grŵp i gofrestru fel elusen, a hyd yn oed leihau atebolrwydd eich pwyllgor / bwrdd ar yr un pryd trwy eich helpu i gofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Os yw’ch grŵp yn berchen ar eiddo neu’n cyflogi staff gallai hyn fod y dewis doethaf o strwythur cyfreithiol. Bydd staff BAVO yn trafod yr opsiynau gyda chi ac yn eich cefnogi trwy gydol y broses, gan ddarparu arweiniad ac opsiynau sydd er budd gorau eich sefydliad.
Darllenwch fwy am Gofrestru Elusennau
Ydych chi’n sefydlu Cwmni Budd Cymunedol newydd? Nawr gallwch ddefnyddio proses gorffori ar-lein. Bydd yr opsiwn cofrestru digidol newydd hwn yn cynnig:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ar-lein newydd, edrychwch ar y weminar hon sy’n rhoi trosolwg o’r system ar-lein.
Rydym yn tueddu i ddefnyddio ein cyfansoddiadau fel hen ddarn o ddodrefn ffyddlon – yn cael ei ddefnyddio’n dda ond anaml y caiff ei archwilio’n ofalus. Rydym yn tybio ei fod mewn siâp da ac yn rhedeg duster drosto yn achlysurol ond byth yn gwirio’r strwythur sylfaenol am wendidau neu rannau sydd wedi treulio.
Mae’n arfer da taflu llygad gofalus dros eich cyfansoddiad bob ychydig o flynyddoedd i sicrhau ei fod yn dal i adlewyrchu’r hyn y mae eich grŵp yn ei wneud mewn gwirionedd, a sut rydych chi’n gweithredu. Os gwelwch fod angen i chi ei ddiweddaru gallwch ffonio ein staff datblygu i gael cefnogaeth. Os gwnewch newidiadau iddo, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
Mae’n syniad da adolygu’ch polisïau yn flynyddol, ychydig cyn CCB gan y bydd hynny’n rhoi cyfle i chi fabwysiadu fersiynau wedi’u diweddaru mewn pleidlais aelodau yn ystod y CCB. Fodd bynnag, bydd angen ymgorffori newidiadau deddfwriaethol yn eich polisïau wrth i’r ddeddf berthnasol ddod i rym.
Unwaith eto, os oes angen cefnogaeth arnoch i sicrhau bod eich polisïau’n gyfredol, gall ein staff datblygu helpu gyda hyn.
Am fanylion pellach, cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk