Hafan » Diweddariad ar gynnydd mewn Yswiriant Gwladol
Diweddariad ar gynnydd mewn Yswiriant Gwladol
Cyhoeddwyd: 20 Rhagfyr 2024
Ymhellach i’r e-bost a anfonodd BAVO at Aelodau Seneddol ac Aelodau’r Senedd ym mis Tachwedd, a’n cynrychiolaeth ar ran ein sector lleol gyda WCVA, anfonodd WCVA friff byr at Aelodau Seneddol Cymru cyn yr ail ddarlleniad o’r Bil Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r Cyfnod Pwyllgor ar 17 Rhagfyr.
Mae’r briff yn galw ar Aelodau Seneddol i godi pryderon y sector am y cynnydd, ac yn galw hefyd am gefnogaeth ar gyfer gwelliannau a fyddai’n eithrio’r sector gwirfoddol rhag y cynnydd.
Mae croeso i chi ei rannu a’i ddefnyddio i lywio unrhyw gynrychiolaeth y gall eich grŵp chi fod eisiau ei wneud.