Dydd Iau 18 Mawrth 2021 rhwng 10am a 12pm
Mae Cymuned Ymarfer Diogelu CGGC yn darparu fforwm ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldebau diogelu mewn mudiadau gwirfoddol i ddod ynghyd, rhannu arferion da, dysgu oddi wrth ei gilydd, a thrafod pynciau amserol i’r sector.
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar wiriadau DBS ac adrodd digwyddiadau difrifol. Byddwch chi’n clywed gan Wasanaeth Allgymorth Rhanbarthol y DBS a Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr.
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldebau diogelu mewn mudiadau’r sector gwirfoddol yn unig, er enghraifft Swyddogion Diogelu neu arweinwyr dynodedig, ymarferwyr diogelu ac ymddiriedolwyr â chyfrifoldeb dros ddiogelu.
Darganfyddwch fwy a chofrestrwch eich lle yma