Yn dilyn y newid ffiniau o 1 Ebrill 2019, sefydlwyd y rhwydwaith hwn i gynyddu deialog rhwng y trydydd sector ar draws ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.
Gweledigaeth y rhwydwaith yw gwella canlyniadau iechyd a lles pobl sy’n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, lleihau anghydraddoldebau iechyd, hyrwyddo lles cymdeithasol mewn cymunedau, atal afiechyd a chynorthwyo adferiad ac annibyniaeth.
Am fanylion pellach, cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk