Rhwydwaith o ddarparwyr trydydd sector yw Bridgend Youth Matters y mae eu gwaith yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys er enghraifft, clybiau ieuenctid gwirfoddol.
Mae’n agored i unrhyw grŵp gwirfoddol neu gymunedol sy’n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed ac yn galluogi aelodau i drafod materion pobl ifanc, rhannu arfer da a chydweithio i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc.
Ydych chi’n sefydliad sydd wedi’i leoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n darparu gwasanaethau cymorth neu weithgareddau i bobl ifanc 11 oed a throsodd?
Mae Bridgend Youth Matters yn agored i unrhyw grŵp gwirfoddol neu gymunedol sy’n gweithio gyda phobl ifanc 11-25 oed. Mae’n galluogi aelodau i drafod materion pobl ifanc, rhannu arfer da a chydweithio i ddatblygu cyfleoedd i bobl ifanc.
Mae’n helpu i sicrhau bod pobl ifanc ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael gwybodaeth dda ac yn cael cefnogaeth i gael mynediad at ystod eang o wasanaethau o safon sy’n eu galluogi i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd bywyd yn eu cymunedau lleol.
Trwy ddod yn aelod o Bridgend Youth Matters bydd gennych fynediad at gyfleoedd hyfforddi ac ariannu ac yn rhannu materion, barn ac anghenion pobl ifanc yn eich gwasanaethau.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â BAVO, T: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk