Dylai diogelu fod yn flaenoriaeth i bob sefydliad trydydd sector, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.
Mae diogelu yn rhan werthfawr o fframwaith llywodraethu sefydliad. Mae’n cysylltu gyda:
Mae WCVA wedi cynhyrchu rhestr wirio ddefnyddiol i’ch helpu chi i gadw’ch polisi’n effeithiol ac yn gyfredol.
Rhaid i elusennau a sefydliadau’r sector gwirfoddol fod yn ymwybodol o’r gweithdrefnau diogelu cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru a lansiwyd ym mis Tachwedd 2019.
Mae’r gweithdrefnau’n manylu ar y rolau a’r cyfrifoldebau hanfodol i ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a’u hesgeuluso. Fe’u dyluniwyd i safoni arfer ledled Cymru a helpu ymarferwyr i gymhwyso’r canllawiau statudol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
Gallwch gyrchu’r gweithdrefnau newydd yma
Mae’r gweithdrefnau hefyd ar gael fel ap defnyddiol am ddim y gellir ei lawrlwytho i’ch ffôn. Mae’r ap ar gael gan Google Play ac Apple.
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Ymwybyddiaeth o Ecsbloetio Rhywiol Plant 18 Mawrth 2021, cyhoeddodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad Ysgrifenedig yn cyhoeddi cyhoeddi ‘Working Together to Safeguard People, Cyfrol 7 – Canllawiau Statudol yn amddiffyn plant rhag camfanteisio’n rhywiol ar blant’.
Rhaid i les plant ac oedolion sydd mewn perygl fod yn brif ystyriaeth unrhyw sefydliad gwirfoddol os yw waith yn dod i mewn i gysylltiad â phobl agored i niwed. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth wella bywydau pobl sy’n agored i niwed, ond nid yw pob gwirfoddolwr yn addas ar gyfer y math hwn o waith, ac ar adegau, gallant fod yn fygythiad. Mae hyn yn golygu cynnal asesiadau risg ar gyfer gwaith sy’n cynnwys pobl agored i niwed, mabwysiadu arferion gwaith diogel i helpu i leihau risg, cael arferion recriwtio a dethol da a systemau goruchwylio cadarn.
Cyn cynnwys gwirfoddolwyr, mae’n werth treulio peth o amser yn ystyried sut y gallant nhw weithio yn eich sefydliad. Mae’n hanfodol i’r sefydliad darganfod tasgau sy’n briodol i’r gwirfoddolwr eu cyflawni, cyn y broses recriwtio a dethol. Gan nad yw gwirfoddolwyr yn cymryd lle gweithwyr cyflogedig, dylid eu hystyried yn ategu’r rôl, gan ddod â gwerth ychwanegol i’r sefydliad.
Recriwtio, dethol a sefydlu gwirfoddolwyr
Yn ddiweddar, mae’r Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol (NCVO) wedi lansio amryw o adnoddau diogelu, wedi’u chefnogi gan sefydliadau eraill. Ariannwyd yr adnoddau ar y cyd gan yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Darganfyddwch fwy am riportio digwyddiadau difrifol yn eich elusen fel ymddiriedolwr
Darganfyddwch fwy am riportio camwedd difrifol mewn elusen fel gweithiwr neu wirfoddolwr
Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi diweddaru ei daflenni canllaw.
Mae yna amryw o daflenni eraill sy’n ymwneud â rolau penodol.
Gallwn helpu eich sefydliad i sefydlu arferion rheoli diogelu da a chynnig hyfforddiant Diogelu Pobl (Ymwybyddiaeth Diogelu Sylfaenol Cymru Gyfan).
Yn ogystal, BAVO yw’r cyswllt trydydd sector â’r Bwrdd Gweithredol Diogelu.
Am fanylion pellach cysylltwch â BAVO, Ff: 01656 810400 neu E: bavo@bavo.org.uk